Rhif y ddeiseb: P-06-1164

Teitl y ddeiseb: Gwneud bwlio ac aflonyddu mewn ysgolion yn drosedd pan fydd plant wedi cyrraedd yr oedran cyfrifoldeb troseddol

Geiriad y ddeiseb: Mae gormod o blant yn dioddef mewn distawrwydd, yn hunan-niweidio neu'n cyflawni hunanladdiad. Nid yw annog plant i fod yn garedig wrth ei gilydd yn gweithio. Nid yw bwlis yn wynebu canlyniadau eu gweithredoedd. Dylid gwneud bwlio ac aflonyddu yn drosedd pan fydd plant wedi cyrraedd yr oedran cyfrifoldeb troseddol (10 oed+).

Yn amlach na pheidio y dioddefwyr a'u teuluoedd sy'n gorfod ymdopi â chanlyniadau bwlio, nid y bwlis. Mae llawer o blant yn cyflawni hunanladdiad neu yn cael eu bywydau wedi'u dinistrio, ond mae bwlis yn byw gweddill eu bywydau heb wynebu unrhyw ganlyniadau am eu gweithredoedd. Yn aml ni fydd plant yn codi llais oherwydd eu bod yn teimlo'n ddi-rym ac yn credu nad oes modd atal y bwlio. Os byddai hyn yn gyfraith yna fe allai plant deimlo'n fwy hyderus i godi llais yn erbyn eu bwlis. Mae bwlio ac aflonyddu yn y gweithle wedi'i warchod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Pam na all plant gael yr un amddiffyniad?

 

 


1.     Cefndir

1.1.         Dyletswyddau cyfreithiol

Mae amrediad o ddeddfwriaeth yn gymwys yng Nghymru sydd â’r nod o amddiffyn plant a phobl ifanc rhag cael eu cam-drin, gan gynnwys cael eu bwlio:

§    Mae Deddf Addysg 2002 yn gosod dyletswydd gofal ar ysgolion i amddiffyn eu holl ddysgwyr ac i ddarparu amgylchedd diogel, iach.

§    Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod rhwymedigaethau ar ysgolion i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth, hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn ei rhannu, a meithrin perthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn ei rhannu.

§    Mae Deddf Addysg 2002 yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar ysgolion a gynhelir ac awdurdodau lleol i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.

§    Mae Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth ysgol a gynhelir bennu mesurau i annog ymddygiad da a pharch tuag at eraill, ac i atal pob math o fwlio ymhlith dysgwyr.

Yn ogystal, gallai rhai gweithgareddau bwlio ar-lein fod yn droseddau o dan nifer o wahanol gyfreithiau, gan gynnwys Deddf Cyfathrebu Maleisus 1988 a Deddf Amddiffyn rhag Aflonyddu 1997.

Yng Nghymru a Lloegr, yr oedran cyfrifoldeb troseddol yw 10 oed.  Gellir arestio plant rhwng 10 a 17 oed a'u dwyn gerbron y llys os ydynt yn cyflawni trosedd.

2.     Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Yng Nghymru, mae canllawiau gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi’r ddeddfwriaeth dan sylw. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Hawliau, parch, cydraddoldeb: Canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir  ym mis Tachwedd 2019. Roedd y ddogfen hon yn disodli'r canllawiau anstatudol a gyhoeddwyd yn flaenorol, sef ‘Parchu Eraill’.

Rhaid i gyrff llywodraethu roi sylw dyledus i’r canllawiau statudol hyn wrth arfer eu swyddogaethau ynghylch y dull o reoli ysgol a gwneud trefniadau ar gyfer diogelu a hybu llesiant plant a phobl ifanc sy’n ddysgwyr yn yr ysgol.  Rhaid i gyrff llywodraethu roi sylw i'r canllawiau statudol wrth arfer eu swyddogaethau o ran hybu ymddygiad da a disgyblaeth dda mewn ysgolion.   Mae'r canllawiau'n nodi:

...bydd yn rhaid i’r pennaeth weithredu yn unol â’r polisi ymddygiad, rhywbeth y mae Deddf [Addysg ac Arolygiadau] 2006 yn nodi y dylai pob ysgol ei sefydlu. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i weithdrefnau sy’n amlinellu sut bydd ysgol yn mynd i’r afael â bwlio a strategaethau i herio ymddygiad bwlïaidd gael eu nodi’n glir ym mholisi gwrth-fwlio ysgol.

Mae'r canllawiau hefyd yn nodi y gallai rhai achosion o fwlio fod yn faterion diogelu neu’n faterion lle mae angen cysylltu â’r heddlu. Mae’r canllawiau’n dweud:

Dylid hysbysu’r heddlu cyn gynted ag y bo modd os amheuir bod tramgwydd troseddol wedi cael ei chyflawni yn erbyn plentyn neu berson ifanc.

3.      Camau gweithredu gan Senedd Cymru

Rhwng 2019 a 2020, bu'r Pwyllgor Deisebau yn ystyried deiseb, P-05-862 Mynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion, a oedd yn galw am fframwaith gwrth-fwlio safonol a allai gael ei orfodi drwy’r gyfraith, ac yn gofyn bod achosion o fwlio yn cael eu cofnodi a bod gweithredu’n digwydd yn eu cylch.  Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Kirsty Williams, sef y Gweinidog Addysg ar y pryd, a gofynnodd am dystiolaeth ysgrifenedig gan Gomisiynydd Plant Cymru ac elusennau plant.  Roedd y Comisiynydd Plant yn fodlon â statws statudol y canllawiau gwrth-fwlio newydd.  Cytunodd y Pwyllgor nad oedd fawr ddim pellach y gallai'r Pwyllgor ei gyflawni bryd hynny, a chytunodd i gau'r ddeiseb.

4.     Camau gweithredu gan Senedd y DU

Yn 2018, trafododd Pwyllgor Deisebau Senedd y DU ddeiseb berthnasol, sef Make Bullying a Criminal Offence.  Roedd ymateb Llywodraeth y DU fel a ganlyn:

Laws are already in place to protect people when bullying behaviour constitutes a criminal offence. The government does not plan to introduce additional legislation for bullying behaviour.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.